Imágenes de páginas
PDF
EPUB

CYFIEITHIAD A BYR-NODIADAU AR YR EPISTOL AT Y GALATIAID. 9

ymddangosiad y Messïah (y byd hwn), a'r byd a'r ol hyny (y “byd a ddaw”). Barna Jowett y gall yr apostol fod a'i lygaid ar y dosbarthiad hwn. Prin y gallwn gredu hyny. Darllena Meyer, "y byd drwg sydd yn dechreu," gan gyfeirio yn ol ei farn ef at ddirgelwch yr anwiredd yr hwn oedd yn dechreu gweithio eisioes.

"Yn ol ewyllys Duw." Y mae yr ymadrodd hwn i'w gysylltu a'r holl frawddeg flaenorol. Yr oedd gwaith Crist yn rhoddi ei hun am ein pechodau, ac amcan y gwaith hwnw, yn berffaith unol, ïe, yn gyflawniad o, ac yn ufudd-dod i, ewyllys Duw.

6. Yr wyf yn rhyfeddu eich bod mor fuan yn myned trosodd oddiwrth yr hwn a'ch galwodd yn ngras Crist, at efengyl wahanol yr hon nid yw arall, ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn ewyllysio gwrth-droi efengyl Crist.

"Mor fuan," ar ol eu troedigaeth at Gristionogaeth, ond gall gymeryd i fewn yn ychwanegol, ar ol ymddanghosiad y gau athrawon yn eu plith, ac ar ol ei ymweliad ef â hwy, oddiwrth yr hwn a'ch galwodd, nid Paul ond Duw, yn ol dull arferol yr apostol o lefaru am Dduw, pan yn dymuno rhoddi argraff ddifrifol ar y meddwl.

“Yn ngras Crist." Gellid yn deg ddarllen "trwy,” fel yn y cyfieithiad cyffredin, gan fod v weithiau yn cael ei arfer i osod allan offerynoliaeth neu foddion, ond gwell genym ei gymeryd yma yn llythyrenol," yn ngras Crist." Yr oeddynt wedi eu galw gan Dduw i fod yn ngras Crist, sef yn byw ynddo fel elfen. Nid gras mewnol fel y mae yn yr enaid, a olygir yma, ond gras allanol (objective) fel y mae wedi ei amlygu gan Grist. Felly arwydda yr athrawiaeth am ras Crist.

"At efengyl wahanol." Yn lle athrawiaeth gras yr oeddynt yn myned trosodd, nid wedi myned ond yn myned at athrawiaeth wahanol, gan gyfeirio at athrawiaeth y gau athrawon.

"Yr hon nid yw arall." Y mae yn efengyl wahanol ond nid ydyw yn efengyl arall. Y mae yn un mor wahanol nes nad ydyw yn un arall, am nad ydyw yn un oll. Rhoddwn i lawr yn unig ddau olygiad arall ar yr ymadrodd hwn. 1. Yr hon (efengyl) nid yw arall, na bod rhai yn eich, &c. 2. Yr hyn (sef eich gwaith yn myned trosodd, &c.) nid yw arall, na bod rhai, &c. Y mae Jowett yn barnu fod yr apostol yn meddwl ar y dechreu am roddi, "yr hyn nid yw arall," ond iddo wrth weled y tebygolrwydd rhwng y ddau air, iddo newid ei feddwl, ac yn lle rhoddi "na," rhoddodd "ond."

10 CYFIEITHIAD A BYR-NODIADAU AR YR EPISTOL AT Y GALATIAID.

“Ac yn ewyllysio gwrth-droi." Nid dat-troi, na gwyr-droi, ond yn fwy manwl, gwrth-droi Eu camwedd ydoedd cam-cyfleu gwirioneddau yr efengyl nes eu gwneuthur yn ddirym, neu mewn geiriau eraill eu llygru a'u gwanhau.

8-9. Eithr pe byddai i ni neu angel o'r nef efengylu i chwi yn amgen i'r hyn a efengylasom i chwi, bydded Anathema. Megis y dywedasom o'r blaen, yr ydym yn awr yn dywedyd drachefn, Os oes rhywun yn efengylu yn amgen na'r hyn a dderbyniasoch, bydded Anathema.

Yn

yr wythfed adnod y mae y dybiaeth yn fwy ymresymiadol, yn y nawfed y mae yn awgrymu fod y dybiaeth yn ffaith.

"Yn amgen." Cyfeiria hyn at y modd o osod allan yr efengyl, nid yn unig at y pethau a ddywedid, ond y dull o'u cyfleu ger bron y gwrandawyr. Y mae yn bosibl cyfleu gwirioneddau yn y fath fodd nes peri iddynt fod mewn gwirionedd yn gyfeiliornadau.

"Bydded Anathema." Nid gorchymyn i esgymuno y cyfryw o'r eglwys, ond cyhoeddiad o'u cyflwr yngolwg Duw. Nis gallwn syniad am esgymuno "angel" o'r eglwys.

10. Canys yn awr ai dynion yr ydwyf yn ceisio eu ffafr ai Duw, neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion; canys pe, wedi'r cyfan, mai bodd dynion a ryngom, ni byddwn was i Grist.

"Yn awr," mewn ffordd o ymresymu. Y mae yr Apostol yn yr adnod hon a'i lygaid ar y gau athrawon, y rhai, fel y gwelir oddiwrth ddiwedd yr Epistol, oeddynt a'u bryd ar ennill dysgyblion, a'u boddhau ar ol eu hennill; ac am eu bod felly eu hunain, mynent i'r Galatiaid gredu fod Paul felly, yr hyn a wrthbrofir ganddo yma, trwy ei fod yn hyf yn cyhoeddi pob cyfeiliornwr oddiwrth y gwirionedd yn esgymunedig.

"Wedi'r cyfan." Groeg, i eto. Nid ydym i feddwl fod yr Apostol yn awgrymu ei fod unwaith wedi bod yn rhyngu bodd dynion. Arwydda yr un peth a'r ymadrodd Cymreig "wedi'r cyfan."

NOD LLEW.

AMA
www

A MHOSIBLRWYDD SYMUDIAD,

"Nis gall unrhyw sylwedd symud yn y lle nid ydyw.

Nis gall unrhyw sylwedd symud yn y lle mae.

Ond y mae y lle a lenwir gan y sylwedd ar lle sydd heb ei lanw ganddo yn gwneuthur i fynu yr oll o le.

Rhaid i symudiad fod mewn lle.

O ganlyniad nis gall unrhyw sylwedd symud."

Awdwr yr ymresymiad uchod ydyw Zeno nid sylfaenydd y sect Stoicaidd, ond athronydd arall yr hwn oedd yn enedigol o Elea yn yr Ital. Ganwyd ef tua C. C. 488. Yr ydoedd yn ddysgybl i Parmenides ac aeth gyda ef o Athen pan yr ydoedd tua 40 oed. Amddiffynai athroniaeth yr Eleatiaid yn gadarn ac ymroddedig, gan ymdrechu profi fod y gyfundraeth wrthwynebol i'r eiddo ef, sef realism, yn hollol ynfyd ac amhosibl. Er engraifft, danghosai nas gallwn ffurfio drychfeddwl am y posiblrwydd o ranau unrhyw sylwedd estynedig, heb anghysondeb, o herwydd rhaid i'r rhanau o anghenrheidrwydd fod yn syml neu yn gyfansawdd. Os syml, yna nid oes maintioli yn perthyn iddo, ac felly nid ydyw yn bod. Os cyfansawdd--nid oes unoliaeth yn perthyn iddo gan ei fod ar yr un pryd yn feidrol ac yn anfeidrol. Yr un modd ceisiai ddangos fod. anhawsderau anorfod yn gysylltiedig a'r drychfeddwl o symudiad mewn lle, a dyfeisiodd bedwar o resymiadau i wrthbrofi posiblrwydd symudiad, un o ba rai, a'r un mwyaf adnabyddus, a elwir wrth yr enw Achilles. A oes rhyw un o ddarllenwyr y SYMBYLYDD a anturia ddangos ymha le y mae gendeb yr ymresymiad uchod yn gorwedd? Bydd yn dda genym gael dad-ddyrysiad boddhäol. i'r anhawsder.

GEIRIAU Y DOETHION.

GWERSI O BACON.

Y MAE ffyrdd myfyrdod, yn wir, yn cyfateb yn agos i ddwy ffordd mewn natur, un o ba rai sydd yn syth ac afrwydd yn y cychwyn, ond yn terfynu mewn

gwastadedd; y mae y llall yr hon sydd ar yr olwg gyntaf yn esmwyth a hawdd yn arwain i greigiau anferth a chlogwyni peryglus.

Y mae amser fel afon wedi dwyn i lawr i ni yr hyn sydd ysgafn a chwyddedig, ond wedi suddo yr hyn oedd yn bwysig a sylweddol.

Y mae myfyrdod ar weithredoedd Duw yn cynnyrchu gwybodaeth yr hon yn ei pherthynas ag Ef, er hyny, nid yw yn wybodaeth berffaith, eithr rhyfeddod, ydyw; yr hwn y gellir ei alw, yn wybodaeth dòredig. Gellir, gan hyny, ddywedyd yn briodol, "Fod y synwyrau fel yr haul, yr hwn sydd yn dangos y ddaear ond yn cuddio y nefoedd,” o herwydd, felly y mae y synwyrau yn dadguddio pethau naturiol, tra y maent yn cuddio pethau nefol.

Ar lawr-dyrnu athroniaeth, lle y mae ail-achosion yn ymddangos fel yn llyncu i fynu ein sylw, gall grâdd o anghof o'r achos cyntaf gymeryd lle; ond pan elo y meddwl yn ddyfnach, ac y gwelo ddibyniad achosion a gweithredoedd Rhagluniaeth, canfydda yn hawdd, yn unol a chwedloniaeth y beirdd, fod dolen uchaf cadwen Natur wedi ci gwneuthur yn rhwym wrth orsedd Jupiter.

Fel y dywedwn, a hyny yn wir, mae lifra rhinwedd ydyw gwrîd cywilydd, er y gall, weithiau, darddu oddiar euogrwydd; felly, y mae yn wir am dlodi, ei fod yn gyffredin yn canlyn rhinwedd, er y gall weithiau darddu oddiar gam-drefn a dygwyddiadau anffodus.

Darfu i'r ysgolorwyr, mewn meddiant ac ymarferiad o gywreinrwydd ac arabedd diderfyn, wëu allan o ychydig ddefnydd, y gwëoedd manwl hyny o ddysgeidiaeth ag sydd i'w cael yn eu llyfrau. O herwydd y mae y meddwl dynol, os bydd yn gweithredu ar ddefnydd, ac yn myfyrio ar natur pethau, yn gweithio yn ol y defnydd; ond os bydd yn gweithio arno ei hun, fel y pryf copyn, ni bydd diwedd arno, ond y mae yn cynnyrchu gwëoedd o ddysgeidiaeth canmoladwy, yn wir, o herwydd meinder yr edafedd, eithr heb ddim sylwedd na bûdd yn perthyn iddynt.

Fel nas gellir cymeryd golwg gyflawn a pherffaith ar wlad oddiar y gwaelod, felly y mae yn amhosibl darganfod rhanau pellafol a dwfn unrhyw wyddoniaeth trwy sefyll ar wastadedd y wyddoniaeth hono, neu, heb esgyn i un uwch.

Y mae rhai dynion yn chwenych gwybodaeth, oddiar ryw chwilfrydedd naturiol a thymher ymchwilgar; rhai i ddifyru y meddwl âg amrywiaeth a hyfrydwch; rhai er addurn a chlod; rhai er buddugoliaeth a chynhen; rhai cr mwyn elw a bywioliaeth ; ac, ond ychydig, er mwyn gwneuthur defnydd o rôdd ddwyfol rheswm, er gwasanaeth a bûdd dynolryw. Fel hyn, y mae rhai yn ceisio mewn gwybodaeth, orweddfa i ysbryd ymchwilgar, eraill, rodfa i feddwl crwyd

rol, eraill dwr, eraill amddiffynfa, eraill fasnachfa er elw a gwerthu, yn lle i fod yn ystorfa er gogoniant y Creawdwr ac addurniad bywyd dynol.

Y mae dysgeidiaeth sylweddol yn rhag-flaenu gwag-ogoniant yr hwn sydd yn wreiddyn pob gwendid: gan y canmolir pethau, naill ar am eu bod yn newydd neu am eu bod yn fawr. Gyda golwg ar newydd-deb nis gall neb dreiddio yn ddwfn mewn dysg, heb ddarganfod nad ydyw yn gwybod dim yn drwyadl, ac nis gallwn ryfeddu os edrychwn y tu ol i'r llen. Gyda golwg ar fawredd, fel yr oedd Alexander ar ol arfer â byddinoedd mawrion, a gorchfygu taleithiau mawrion yn Asia, pan dderbyniai hanesion brwydrau yn Groeg, y rhai oeddynt yn gyffredin am amddiffynfa neu fwlch, neu dref gaerog, yn dychymygu nad ydoedd ond yn darllen yn Homer hanes y rhyfel rhwng y llyffaint a'r llygod : felly, ond i un ystyried y cyfan-fyd mawr, fe ymddengys y ddaear a'i thrigolion iddo fel twmpath morgrug, lle y mae rhai yn cludo grawn, eraill yn cludo eu rhai bychain, eraill yn wâg, â'r cyfan yn ymsymmud ar ryw bentwr bychan o bridd.

Y mae gan hyny ddau brif wasanaeth heblaw addurn ac eglurhâd yn cael eu cyflawni gan athroniaeth a dysgeidiaeth ddynol i ffydd a chrefydd, y naill yn cynhyrfu yn effeithiol i ddyrchafiad gogoniant Duw, ar llall yn hyfforddi diogelwch arbenig yn erbyn anghrediniaeth a chyfeiliornad. Dywed ein Iachawdwr, "Yr ydych yn cyfeiliorni am na wyddoch yr Ysgrythyrau na gallu Duw," gan osod o'n blaen ddau lyfr i'w hastudio, os mynwn gael ein diogelu rhag cyfeiliornad, sef yr Ysgrythyrau, y rhai sydd yn dadguddio ewyllys Duw, â'r grëadigaeth yr hon sydd yn rhoddi argraff o'i allu, yr olaf o ba rai sydd yn agoriad i'r cyntaf, ac sydd nid yn unig yn agor ein deall i ddirnad iawn ystyr yr Ysgrythyrau trwy syniadau cyffredinol rheswm a rheolau iaith, ond yn benaf hefyd, yn agor ein ffydd trwy ein tynu i ystyriaeth ddyledus o hollalluowgrwydd Duw, yr hwn sydd wedi ei argraffu ar ei weithredoedd.

[ocr errors][merged small]

D.S.-Nid ydym yn ystyried ein hunain yn gyfrifol am olygiadau ein Gohebwyr.

AT OLYGYDD Y SYMBYLYDD.

SYR,-Yr ydwyf wedi clywed, ond nis gwn ai gwir ydyw, ai nad ê, fod un o

« AnteriorContinuar »