a all seinio ei ddau sein-nod yn berffaith unol â nodau yr hyn a elwir yn diatonic scale. Gofaled y plant hefyd am fod ganddynt ryw swm o arian yn eu pocedau pan glywont y gôg newydd y waith gyntaf. "Oh Cuckoo! shall I call thee bird, Or but a wandering voice." HOLIADAU AR Y DDAU GYFAMMOD. GAN Y PARCH. FRANCIS JONES, REHOBOTH. 1. PA fodd y profwch fod y fath beth a chyfammod wedi ei ffurfio rhwng Duw ac Adda? 2. Pa gyffelybrwydd sydd rhwng y marw yn Adda a'r bywhau yn Nghrist? 3. Pa fodd y dangoswch uniondeb a chyfiawnder y cyfammod gweithredoedd? 4. Pa fanteision oedd o'i gadw? Ac a allasai Adda gyflawni rhyw bechod arall tra yn cadw y gorchymyn esmwyth hwn? 5. Beth a olygwch wrth fod camwedd Adda yn cael ei gyfrif i ni? A oes rhyw beth perthynol i'r camwedd hwnw yn cael ei drosglwyddo i ni trwy hyny? Ac ai y cyfrifiad o'r camwedd i ni sydd yn dwyn ei ganlyniadau arnom? 6. A'i priodol ynte anmhriadol dyweyd ein bod ni yn euog o gamwedd Adda? 7. Nodwch olygiadau eraill ar hyn, a phaham eu gwrthodwch. 8. A ddylem ni edifarhau am gamwedd Adda? 9. Beth a gollodd dyn yn y cwymp? Dywedir ei fod trwy hyny wedi "ei werthu tan bechod," yn "farw," &c. Beth a olygwch wrth hyny? 10. Mae yr apostol yn yr epistol at y Rhufeiniaid yn dangos y rhesymoldeb i bechadur gael ei gyfiawnhau trwy deilyngdod un arall. Pa fodd y gwna hyny? 11. Paham y rhoddir y fath arbenigrwydd ar ffydd rhagor pob gras arall yn y cyfammod newydd? 12. Os gallodd dyn perffaith, heb ddim tuedd ynddo at bechod, bechu; paham nas gall dyn anmherffaith, heb ddim tuedd ynddo at sancteiddrwydd, beidio a phechu? 13. Pa gyffelybrwydd sydd rhwng Crist a Melchisedec? A pha beth ᎩᎳ bod yn "offeiriad yn ol urdd Melchisedce?" 14. Pa bryd y dechreuodd Crist ar ei swyddi offeiriadol a chyfryngol, a pha bryd y dybena? 15. Beth a olygwch wrth fod Iesu Grist yn Fachnïydd? Machnïydd i bwy ydyw? A pha beth a wna fel y cyfryw? 16. Nodwch olygiadau eraill gwahanol, a phaham y gwahaniaethwch oddiwrthynt ? 17. Os talodd Crist ddyled ei bobl fel eu Machïydd, pa fodd y maent hwy wedi hyny yn cael eu galw yn "annuwiolion" ac yn "blant digofaint" hyd nes y credont? 18. Pa wirioneddau a ddygodd Crist i'r byd fel prophwyd na wyddai y byd o'r blaen am danynt? 19. Ymha fodd, ac yn mha bethau, y dengys yr apostol yn yr epistol at y Rhufeiniaid, y mae y cyfammod gras yn rhagori ar y cyfammod gweithredoedd? 20. Pwy, yn ol dysgeidiaeth y Bibl, yw deiliaid y cyfammod gras? 21. Gan y gwyddai Duw cyn sefydlu y cyfammod gweithredoedd. mai ei dori a wneid, beth, mor bell ag y gallwn ni farnu, oedd yr amcan o'i sefydlu? 22. A gollir rhywun am gamwedd Adda yn unig? DYFYNION. Y MAE talent, yn gymaint a'i bod yn gorwedd yn y deall, yn aml yn cael ei hetifeddu; ond nid yw athrylith felly ond yn anfynych neu byth, yn gymaint ag mai gweithrediad y rheswm a'r dychymyg ydyw.-S. T. Coleridge. Bydd yn bosibl fod un gyfres o farnau i'r uchel-radd, a chyfres arall i'r isel-radd yn unig, pan y peidiant a gweled yn ngoleuni yr un haul, ac anadlu yn yr un awyr. O herwydd y mae opiniynau fel cawodydd y gwlaw, yn cael eu cenhedlu mewn lleoedd uchel, ac yn dylifo i lawr yn y diwedd at y bobl fel y gwlawogydd i'r môr. -Colton. Y mae yr hyn a ddarllenom gydag awyddfryd yn gwneuthur argraff llawer cryfach. Os byddwn yn darllen heb hyny, y mae hanner y meddwl yn cael ei ddefnyddio i sefydlu y sylw, fel nad oes yn aros ond hanner o hono i weithredu ar yr hyn a ddarllenom. Os dechreua dyn ddarllen yn nghanol llyfr a theimlo tuedd i fyned ymlaen, na adawed ef i fyned yn ol i'r dechreu. Efallai na theimla yr awyddfryd eto.-Dr. Johnson. Geiriau priodol yn eu lleoedd priodol ydyw gwir ddeffiniad arddull.-Swift Gellwch benderfynu fod hwnw yn ddyn da, yr hwn y mae ei gyfeillion agosaf oll yn dda.-Lavater. ATEBION I YMOFYNION. "Pa beth ydoedd dechreuad cariad-wleddoedd y Cristionogion boreuol." Efallai mai y golygiad mwyaf tebygol ydyw yr eiddo Chrysostom, yr hwn a ddywed fod y Cristionogion cyfoethog, ar ol i'r dull cyntefig o feddu pob peth yn gyffredin, ddarfod, yn arfer dyfod â chyfraniadau o fwyd a diod i'r cynnulliadau eglwysig tuag at ddiwallu anghenion y tlodion, o'r rhai y cyfranogent gyda'u gilydd-tlawd a chyfoethog ynghyd, er mwyn, trwy hyny, fel moddion, gynnyddu cariad brawdol y naill tuag at y llall. "Pwy a feddylir wrth Tammuz, yn Ezec. viii. 14." Un o dduwiau y Syriaid ydoedd, yr enw Syriaeg arno ydoedd Adonis, yr hwn ni fynai y prophwyd ei ddefnyddio o herwydd y tebygrwydd rhyngddo âg un o enwau y gwir Dduw. Felly geilw ef wrth enw y mis Tammuz (Mehefin) yn ystod yr hwn y cynhelid gwyl a gwledd flynyddol i'r gau-dduw. Yn ol y chwedl cafodd Tammuz, neu Adonis, ei ladd gan faedd gwyllt, a rhoddwyd caniatâd iddo i dreulio hanner y flwyddyn ar y ddaear, a'r hanner arall yn y byd isod. Yn yr ŵyl flynyddol byddai y merched yn wylo ac yn tynu eu gwallt mewn galar am ymaadawiad Tammuz, ac ymhalogent, trwy odineb, er anrhydedd iddo, gan gysegru gwobr eu hanwiredd i'r dduwies Venus, yr hon a olygid fel gordderch-wraig i Tammus; ar ol hyny canlynai yr ŵyl i lawenhau am ei ddychweliad i'r ddaear. Gelwid naill ŵyl yn ymadawiad Adonis,", a'r llall yn "ddychweliad Adonis." Rhaid fod llygredigaeth y genedl yn fawr yn nyddiau Ezeciel, pan yr oedd y defodau gwrthun ac eilun-addolgar hyn yn cael eu harfer wrth ddrws tŷ yr Arglwydd.” 66 "Ymha ystyr y mae i ni ddeall fod Crist yn gyntaf-anedig oddiwrth y meirw? Pa fodd y cysonir hyn âg adgyfodiad meirw eraill o'i flaen ?" Gelwir adgyfodiad Crist yn enedigaeth, ac yntau yn anedig ynddo a thrwyddo, am fod ei adgyfodiad yn ddechreuad bywyd newydd iddo, sef bywyd o ogoneddiad a dyrchafiad, yr hwn a darddodd iddo o'i angau, a gelwir ef yn Gyntaf-anedig am mai Ef yn gyntaf a ddechreuodd feddu a mwynhau y bywyd hwnw ; ac nid yn unig hyny, ond am mai Efe ydyw y dechreuad" o hono, y flynnonell o'r hwn y y tardda i eraill. Adferiad o fywyd naturiol oedd adgyfodiad y rhai oll a adgyfodasant o'i flaen, ac am hyny buont feirw eilwaith. Am Enoch ac Elias ni ddarfu iddynt hwy farw oll; ac os ydynt yn awr wedi eu cyfnewid o ran eu cyrph i fod yr un ffurf a'i gorph gogoneddus Ef, cawsant hyny ar ol adgyfodiad Crist, a thrwy ei rinwedd; ond barna rhai na chant hwy eu perffeithio hyd yn nod yn y nefoedd "hebom ninnau,” neu hyd nes y perffeithir yr holl saint yn yr adgyfodiad cyffredinol. |