Imágenes de páginas
PDF
EPUB

ymwybyddiaeth y byd. Tybier ein bod yn gwybod hyn ymlaen Ilaw, a fuasem ni yn teimlo rhyw ddyryswch mewn gweled Crist yn gadael ei ddysgyblion mewn anwybodaeth cymhariaethol am dano ei hun a'r efengyl? Dim yn ddiau. Y mae y trefniad Dwyfol, er na wyddem ddim am y rheswm am dano, ynddo ei hun yn ddigon i ddystewi pob gwrthddadleuon. Ond os gofynwn paham y mae y trefniad y cyfryw ag ydyw, er nas gallwn ddysgwyl gwybod y cwbl, gallwn, hwyrach, gael rhyw drem. Y mae trefniad fel y mae o ochr Duw er mwyn ymarferiad i ffydd y personau Dwyfol yn eu gilydd. Y mae ffydd yn reality rhwng y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân; y mae yn un o brif elfenau dedwyddwch y Duwdod. Nis gallwn amgyffred yr hyfrydwch y mae y personau yn ei gael, mewn rhoddi ymddiriedaeth fawr y naill i'r llall. Ac yn ddiammheu yr hyn y mae y ffydd hon yn cael ei hymarferiad mwyaf gogoneddus ynddo yw trefn cadwedigaeth pechadur. Credwn fod gan hyn fwy o ddylanwad nag a ddychymygir genym ar drefniadau goruchwyliaeth grâs Duw.

66

[ocr errors]

Yn ymarferol, onid oes yma esiampl odidog i ni gan "Bentywysog a pherffeithydd ein ffydd ni,"-yr hwn a gredodd fwyaf o bawb. Gwers fawr y rhan hon o drefn yr efengyl yw ymddiried yn yr Arglwydd, a gwna dda.” Oni allwn ganfod hefyd yn hyn ostyngeiddrwydd y Gwaredwr? Humility was a truth in Christ not an affectation." Pa faint o ddylanwad oedd gan y rhinwedd hwn yn attaliad yr amlygiad o'i ogoniant, nis gwyddom; mwy hwyrach nag y dybir genym. Nid oedd yn dadguddio ei hun, ond pan yr oedd amgylchiadau yn gwneud hyny yn ddyledswydd. Ynddo fe, y canfyddir Haul y Cyfiawnder yn olwynaw trwy ein terfyngylch, wedi gorchuddio ei hunan mewn cwmwl wyleidd-dra, yr hwn na symudid ond pan y byddai gwres ei belydrau yn angenrheidiol i sychu dagrau rhyw weddw drallodus, neu i sirioli ysbrydoedd lluddedig ei ddysgyblion. Dysgwn ganddo, canys addfwyn ydyw, a gostyngedig o galon. Wedi'r cwbl, gwraidd y gwrthwynebiad i athrawiaethau neillduol Cristionogaeth yw y dirgelwch sydd ynddynt. Dyn yw mesur pob peth. Rhaid cael Cristionogaeth na byddo ei lled, na'i hyd, na'i huchder, na'i dyfnder yn ddim mwy na gwr-hyd. Ond dirgelwch duwioldeb yw ei grym. Y mae y ddau ddrychfeddwl yn un gan yr Apostol. Yr un yw "dirgelwch duwioldeb" yr Epistol cyntaf at Timotheus, a "grym duwioldeb yr ail. Gwadu dirgelwch duwioldeb yw gwadu ei grym hi. Yr efengyl nad oes ynddi ddirgelwch, sydd

[ocr errors]

efengyl rhy wan i achub pechadur. Gadewch i ni, ieuengetid Cymru, gan gadw ei dirgelwch a'i grym hi, lynu byth wrth "y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu.'

[ocr errors]

"RHAGORIAETH CRISTIONOGAETH AR HOLL GREFYDDAU Y BYD."

(Parhad o tu dal 168.)

RHAGORA Cristionogaeth yn 2. Yn mherffeithrwydd, rhesymoldeb, eglurdeb, ac arucheledd ei hathrawiaethau. Yn mha grefydd ar y ddaear y ceir y fath gyfangorff o athrawiaethau mor syml, ac eto mor ogoneddus, ag a geir yn yr efengyl? Yn gyntaf, ei golygiadau am Dduw. (a) Yn ei ysbrydolrwydd. Duwiau y cenhedloedd ydynt dduwiau materol. Nid yw crefyddau dynol wedi gallu ymgodi yn uwch na'r materol yn eu syniadau am natur Duw. A phan aeth rhai o honynt, fel Hindwaeth a Bwdhiaeth, i geisio coleddu syniadau a rhoddi desgrifiad o'u duwiau fel bodau ysbrydol, darfu iddynt eu teneuo, (os goddefir y gair), nes iddynt eu hymddifadu o bob cyneddfau, ac hyd yn nod o'u personoliaeth, megys y dywed un ysgrifenydd Seisnig yn y geiriau canlynol;– "The idea of the Divine Being is so sublimated and refined away, that whilst there are passages (yn llyfrau crefyddol y ddwy gyfundrefn uchod) which appear to imply the existence of a Deity, yet, when we endeavour to grasp or analyse the conception, it fades away like a dream." Ond nid Duw materol, na Duw ysbrydol wedi ymgolli a myned yn ddim yn ei ysbrydolrwydd ydyw Duw yr efengyl. Ysbryd yw Duw," sef Ysbryd Personol a Bywiol, yr hwn sydd ymhob peth, a phob peth ynddo yntau, eto nid yw yn un rhan o ddim; ac nid oes dim yn y nef nac ar y ddaear yn gyffelyb iddo. "I bwy gan hyny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo?" O herwydd hyn y rhoddwyd y gorchymyn Dwyfol, "Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna it' ddelw gerfiedig, na llun dim ar y sydd yn y nefoedd uchod, nac ar sydd ar y ddaear isod, nac ar sydd yn y dwfr tan y ddaear. Nac ymgryma iddynt ac na wasanaetha hwynt." Pa faint mwy rhesymol ac aruchel yw y syniadau hyn!

66

(b) Yn ei unoliaeth. Mae y rhan fwyaf o grefyddau y cenhedloedd yn dysgu aml-dduwiaeth. Dywedir fod y Caldeaid, yr Aiphtiaid, y Pheniciaid, y Carthaginiaid, yr Assyriaid, y Mediaid, a'r Persiaid, y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, i gyd yn aml-dduwiaid; a chawn fod yr athronwyr Socrates a Plato, Cicero a Seneca, Epictetus a Marcus Antoninus, dynion mwyaf nodedig y byd paganaidd, wedi bod yn bleidwyr aml-dduwiaeth. (Gwel "True and False religions," gan Dr. Sprague, tudal. 40). Yr oedd duwiau yr hynafiaid mor ryfeddol o aml, fel y dywedwyd unwaith "fod yn haws cael duw na chael dyn." Ac nid yw Paganiaeth yr oesoedd diweddaf hyn fymryn gwell. Pwy all rifo duwiau India a China? Nid yw crefyddau paganaidd y gwledydd hyn ond cyfundraethau enfawr o aml-dduwiaeth, a'u duwiau yn lliosocach nag odid un genedl o eilunaddolwyr ar y ddaear. Y Parsiaid hefyd, er nad ydynt yn addoli delwau ellir eu rhestru yn yr un dosbarth, gan eu bod yn gwneyd duwiau o elfenau natur. Eithr mor brydferth ydyw iaith Cristionogaeth ar y pen hwn;Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu." "Eithr i ni nid oes ond un Duw, y Tad, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac un Arglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y mae pob peth, a ninnau trwyddo ef." Mor syml, rhesymol, ac aruchel yw y desgrifiadau dirodres hwn.

66

(e) Yn ei gymeriad a'i briodoliaethau. Nid yw crefyddau dynol wedi bod yn fwy diffygiol mewn dim o'r bron nag yn y cymeriadau a'r priodoliaethau a briodolant i Dduw. "Nid yn unig yr oedd eu duwiau yn ansier ac amrywiol yn eu cymeriad unigol, ond yr oeddynt yn rhanedig i bleidiau ar unwaith yn wrthwynebol i'w gilydd, ac i ddaioni dynolryw. Yr oedd gan bob cenedl ei noddwyr a'i gelynion yn nghymanfa Olympus, ac yr oedd eu llwyddiant neu fethiant yn cael ei briodoli yn llai i'w rhinweddau neu ei phechodau ei hun

nag i ffafr y duwiau ar un llaw, neu eu digofaint ar y llaw arall. Y duwiau hyn hefyd, nid oeddynt yn fwy dynol yn eu hanghydfod nag yn eu hangenion, eu dymuniadau, a'u mwynderau. Hyd yn nod Zeus y Groegiaid, a Jupiter y Lladiniaid, er mor uchel oedd ef yn rhestr glwysbenaeth y nefoedd, a osodir allan yn fynych fel bód yn meddu llawer o anmherffeithderau a gwendidau dyn gwan a ffaeledig; ïe, dangosir ef weithiau mor warthus mewn pechod. islaw y mwyaf llygredig o ddynion. Mor wahanol ydyw Duw y gyfundrefn Gristionogol. Nid yn unig efe ydyw y Bôd mwyaf ac uchaf yn y bydysawd, ond nodweddir ef gan sancteiddrwydd arbenig

a hanfodol, a phurdeb dilychwin. Yn eistedd ar orsedd y greadig aeth, Efe a lywodraetha ei greaduriaid gyda rhwysg diduedd, eto yn edrych i lawr gyda boddlonrwydd tirion ar bawb sydd yn ceisio ei garu ac ufuddhâu i'w orchymynion.

Mae ei fawredd anchwiliadwy a'i oruchelder annhraethol yn cael eu cymysgu yn brydferth â thosturi tuag at wendidau ei greaduriaid ffaeledig. Y mae yn hwyrfrydig i lid, yn gyflawn o drugaredd; yn sanctaidd, ac eto yn llawn o gariad; yn Dduw cyfiawn, ac eto yn Iachawdwr; yn gyfiawn, ac eto yn cyfiawnhâu yr annuwiol sydd yn credu yn Iesu. Pa beth sydd yn fwy aruchel na dywediadau byrion, ond grymus yr Ysgrythyr, "Goleuni yw Duw,” "Cariad yw Duw."

Yn ail, er nad yw yn perthyn yn uniongyrchol i Gristionogaeth fel crefydd, eto dichon y disgwylir ini wneud sylw ar y desgrifiad Yysgrythyrol o greadigaeth y byd, yn enwedig gan ei fod yn bwynt sydd yn dangos tra-ragorthiaeth y Beibt, llyfr ein crefydd. Nid oedd gan ddynion un drychfeddwl am allu creadigol digonol i ddwyn pethau i fôd o ddim. Aristotle, ac eraill a ddalient fod y byd yn dragywyddol mewn ffurf a pharhâd; eraill, a'r nifer mwyaf o'r athronwyr paganaidd, a farnent y byd yn dragywyddol o ran sylwedd yn unig, a bod dechreuad i'w ffurf bresenol.

Daliai Plato mai arddangosiad tragywyddol yw y bydysawd o'r drychfeddwl annghyfnewidiol a unwyd â mater cyfnewidiol, er tragywyddoldeb. Xenophanes, Parmenides, ac eraill o hen athronwyr Groeg a haerent fod Duw a'r bydysawd yr un peth. Yn ol yr Epicurëaid, daeth y bydoedd i fod trwy gydgyfarfyddiad damweiniol o ronynau. Dywedai Hesiod, y Bardd Groegaidd, mai o'r duw tryblith (Chaos) y cenhedlwyd Abred (Erebus) a Nos, ac mai o undeb y ddau hyn y daeth Hwyr a Dydd. Mewn hen gân Scandinafaidd, darlunir cyflwr gwreiddiol y greadigaeth faterol fel eigion mawr a gwag. Yn y parth gogleddol o'r eigion hwn yr oedd rhew mawr; ond ryw dro fe chwythodd gwynt crasboeth o'r cylch poeth nes toddi y rhew hwn, o'r hyn y cynyrchwyd cawr enfawr o'r enw Ymir. Yr un amser hefyd daeth buwch i fod o'r enw Andhumbla, ar laeth yr hon yr oedd Ymir yn byw ac yn prifio yn braf; ac yn mhen tri diwrnod, wrth lyfu yr halen a'r llwydrew oddiar y cerryg, rhoddodd y fuwch hon fodolaeth i fôd uwchraddol o'r enw Bur, neu Buri. Cafodd Buri fab o'r enw Bör, a phriododd hwn y gawres Joten, ac o'r briodas hon ganwyd y tri duw Odin, Vile, Ve. Yn fuan, ymunodd y duwiau

hyn i ladd y cawr Ymir, ac o'i ysgerbwd ef y gwnaethant y byd. Gwnaethant y ddaear, neu y pridd, o'i gnawd; y moroedd a'r afonydd o'i waed; y mynyddoedd o'i esgyrn mwyaf; y creigiau a'r clogwyni o'i ddannedd, ei elgeith, (jaw bones), ac ysgyrion o rai o'i esgyrn toredig; o'i wallt y gwnaed y coedydd; o'i ymenydd y cymylau; a Migdard-preswylfa dyn, a wnaed o'i aeliau. Yn mydofyddeg (cosmogony) yr Hindwaidd ceir desgrifiad o gyflwr dechreuol y byd elfenol yn suddedig mewn dwfr, yn huno yn mynwes y Tragywyddol. Yn y cyflwr hwn ar bethau, y mae y duw Brahm, adeiladydd y byd, yn penderfynu cynyrchu ŵy mawr yn cynwys holl elfenau y greadigaeth. Er mwyn dwyn hyn oddi amgylch, mae y duw hwn yn ymddangos mewn dwy ffurf newydd o dan yr enwau Purush, neu y gwryw cyntaf, a Prakriti—ffurf fenywaidd yn gyfystyr â Natur. Wedi i'r ŵy bydawl (mundane egg) yma ddyfod allan o sylwedd Brahm, yn llawn o egwyddorion elfenawl y greadigaeth, y mae Brahma, yr hunanfodol ei hun, yn myned i mewn i'r wy gyda yr elfenau hyn, ac yno y mae yn eistedd gan fywiocau, lledu, a chymysgu, yr elfenau hyn am flwyddyn gyfan o'r greadigaeth-pedair mil o yug-neu bedair mil a thri chan miliwn o flynyddoedd heulog. Yn y tymhor hwn yr oedd yr ŵy yn nofio ar wyneb y dyfroedd cyntefig, gan gynnyddu yn barhâus mewn maintioli, ac yn disgleirio mor llachar a mil o heuliau. Ond o'r diwedd, dacw y Brahma yn tori plisgyn yr ŵy enfawr, ac yn dyfod allan o'i garchar hirgrwn mewn ffurf newydd, gyda mil o benau, mil o lygaid, a mil o freichiau.

Gydag ef hefyd daeth yr elfenau mewnol allan yn ffurf bresenol y bydysawd, yn haul, lleuad, sêr, a daear. Ac oddiwrth hyn haerir nad yw y byd ond ffurf ymddangosiadol o'r Brahm; y coedydd a phlanhigion y fforest yw blew ei gorff; y cymylau yw blew ei ben; a'r mellt ydyw blew ei farf; yr awyrgylch yw ei anadl; y taranau yw ei lais; yr haul a'r lleuad yw ei lygaid; yr afonydd ydyw ei wytheni; y creigiau yw ei ewinedd; a'r mynyddoedd uchel ydyw ei esgyrn. (Gwel, "Faiths of the World," arts, Creation, chaos, mundane egg). Mae yn ddïau fod y darllenydd eisioes yn gweled rhyw olion o'r gwirionedd yn y traddodiadau rhyfedd hyn. Mae yn dra thebyg mai yr hanes Foesenaidd wedi ei dywyllu a'i wyrdroi ydyw y cyfan. Ond mor wahanol ydynt oll i symledd, prydferthwch, ac eglurder yr hanes fel y mae yn Llyfr Genesis!

Yn drydedd, yr hyn a ddysga am ddyn yn ei ddechreuad, ei bresenol

« AnteriorContinuar »