O! wele y cyfiawn ac utiganedig, Ei enw yn anwyl fyth gofir gan Seion, Sy 'n golchi aflendid, a chlirio 'r euogion. 'Nol croesi 'r Iorddonen bydd yn eu hanthemau A'i rinwedd effeithiol i buro 'r gydwybod, Trwy ddwyfol gymwysiad o waed y Cyfammod. Llansadwrn, Môn. THOMAS EDWARDS. MANION. NID yw y gwenieithwr yn dyrchafu dyn ond fel y dywedir fod yr eryr yn dyrchafu y tortoise i gael rhyw beth oddiwrth ei gwymp. Pan gyfarfyddo gwenieithwyr y mae y diafol yn myned i'w giniaw. Math o arian drwg ydyw gweniaith i'r rhai mae ein gwagfalchedd rhoddi rhediad.-Rochefoucault. yn Y mae dynion yn cael fod gwenieithio yn haws na chanmol. -Iean Paul. Y mae drysau teml gweniaith mor isel, fel nas gellir myned i mewn iddi heb ymlusgo. Y mae gweniaith wedi ei gyfansoddi o'r ansoddau mwyaf isel ac atgas perthynol i ddynolryw; sef celwydd, gwaseidd-dra, a bradychiad. Pe na byddai ond un dyn rhinweddol yn y byd, daliai ei ben i fyny gyda hyder ac anrhydedd, cywilyddiai ef y byd, ac nid y byd ef.-South. Y mae y dyn sydd heb rinwedd ynddo ei hunan yn wastad yn cenfigenu wrth rinwedd mewn eraill; o herwydd y mae meddyliau dynion yn rhwym o ymborthi naill ai ar eu daioni eu hunain, neu ar ddrygioni eraill. Y mae i rinwedd, fel i ferch brydferth ddi-waddol, fwy o edmygwyr nag o ganlynwyr.-Bacon. Y mae rhinwedd wedi ei gwneuthur i gyfarfod âg anhawsderau, ac y mae yn cryfhau ac yn disgleirio yn fwy o'u herwydd. Mi a fyddwn yn rhinweddol er fy mwyn fy hun, serch na fyddai un dyn yn gwybod fy mod; fel y mynwn fod yn lânwaith serch na welodd neb fi. Y mae pawb ag sydd wedi myned i mewn i deml anrhydedd trwy unrhyw ffordd heblaw ffordd rhinwedd, yn sefyll â llychwin arno yn hanes ei wlad. Y mae gwirionedd yn gongl-faen mewn cymeriad; ac os na osodir hi yn gadarn mewn ieuengctyd, fe fydd byth wedi hyny ysmotyn gwan yn y sylfaen. Y mae yn amheus i bwy y mae dynolryw yn fwyaf dyledus, pa un ai i'r rhai hyny, y rhai sydd fel Bacon a Butler yn cloddio yr aur o fŵn llenyddiaeth, ai i'r rhai sydd fel Paley, yn ei buro, yn ei argraffu, yn nodi ei wir werth, ac yn rhoddi rhediad a defnyddioldeb iddo? I bob dybenion ymarferol, ni byddai yn waeth i wirionedd fod mewn carchar, na bod o fewn folio un o'r ysgolorwyr; ac y mae y rhai sydd yn rhyddhau y gwirionedd o'r silff lwydaidd, ac yn ei dysgu i fyw gyda dynion yn deilwng o'u hystyried yn rhyddhawyr, os nad yn ddarganfyddwyr.-Colton. Y mae yn rhaid i ddynion garu y gwirionedd cyn y gallant yn drwyadl ei gredu.-South. Nid yw gwirionedd yn ofni dim ond cael ei gelu. Y mae mor anmhosibl halogi y gwirionedd trwy unrhyw gyffyrddiad allanol, ag ydyw i halogi pelydr yr haul.-Milton. Y mae gwir lygaid at dalent yn rhagdybied parch iddi. -Carlyle. YSTADEGAU Y CORPH. AR ddymuniad amryw gyfeillion, y mae Mr. Griffith Davies wedi anfon atom daflen ychwanegol at y taflenau cymhariaethol a gyhoeddwyd yn ein rhifyn am fis Rhagfyr diweddaf. Dywedir i ni fod llês eisioes wedi ei wneud drwy ymdrechiadau Mr. Davies i gael mwy o gyhoeddusrwydd yn nghyfrifon eglwysi y Corph, ac yr ydym yn dymuno pob llwyddiant iddo yn ei waith. Yn y daflen isod rhoddir cyfartaledd y casgliadau at y "weinidogaeth" gan brif eglwysi y Siroedd a gymerwyd dan ystyriaeth yn yr adolygiad diweddaf. ATEBION I YMOFYNION. Iago. Y gwahaniaeth rhwng myth a legend, dybygid, ydyw hyn: y mae y cyntaf yn arwyddo creadigaeth ffaith o ddrychfeddwl; a'r ail, canfyddiad drychfeddwl mewn ffaith a helaethiad arni, ac ychwanegiad ati mewn canlyniad. Ymofynydd."-Yr ydym dan anfantais o wybod pa esboniad ar Efengyl Ioan i'w gymeradwyo i chwi fel athraw, am nad ydym yn hysbys o'ch cyrhaeddiadau blaenorol, a'ch chwaeth neillduol. Ond credwn fod esboniad Tholück mor fuddiol i gyfarfod â holl anghenion athraw yn yr Ysgol Sabbothol, a'r un y gwyddom ni am dano o'r rhai Germanaidd a nodir genych chwi. Zelotes. Credwn mai y gwir wahaniaeth rhwng Ysbrydoliaeth a Dadguddiad ydyw yr hyn a ganlyn:—wrth Ddadguddiad y mae i ni olygu hysbysiad uniongyrchol oddiwrth Dduw i ddyn, naill a'i o'r cyfryw wybodaeth ag na allasai dyn ei chyrhaedd o hono ei hun am ei bod uwchlaw cyrhaeddiad y meddwl dynol: megys y prophwydoliaethau, yr athrawiaethau, a ffeithiau neillduol; neu, ynte, cyfarwyddyd uniongyrchol oddiwrth Dduw i wneuthur defnydd o ffeithiau ac athrawiaethau pennodol ag oeddynt eisioes yn bod i ateb dybenion uwch. Wrth Ysbrydoliaeth y golygwn weithrediad dylanwad yr Ysbryd Glân ymha fodd, neu i ba raddau bynag. Heblaw hyn, y mae yn amlwg mai yr ail Berson fel y "Y Gair" ydyw awdwr dadguddiad, ond y trydydd Person "Yr Ysbryd Glân" ydyw awdwr ysbrydoliaeth. NODIADAU AR LYFR. Wonderful Works; or, the Miracles of Christ, By a Clergyman's daughter. (R. T. Society). LLYFRYN dífyr, wedi ei amcanu i roddi eglurhâd poblogaidd ar wyrthiau Crist. Y mae wedi ei gyfansoddi ar ffurf ymddyddan. Y mae y defnydd a wneir o arferion dwyreiniol i egluro y gwyrthiau yn ddyddorol. |