Imágenes de páginas
PDF
EPUB

FY ANWYL

LLYTHYR O CHINA.

SHANHAI,

Awst 8fed, 1864.

Fe'm cymhellir gan yr hen air "gwell hwyr na hwyrach," i anfon yr hanes addawedig o fy siwrne yma, er fod yn rhaid i mi gredu (ar ol y fath oedi) dy fod wedi rhoi fyny bob gobaith am dano.

Ni ddigwyddodd dim byd o fawr ddyddordeb nes y cyrhaeddasom Gibraltar-pawb yn bur ffurfiol; ond fe gollwyd hyny i fesur fel y daeth hi yn dipyn o dywydd garw, ac aeth yn ymdrechfa rhyngom pwy a ddaliai allan hwyaf heb fyned yn sâl. Yr oedd rhai yn fwy hyderus na'r lleill, ac aent mor bell a chwiffio cigar, yr hyn, y rhan amlaf, a droai allan yn bur anffortunus; ac er i mi ddal allan yn hwy na'r rhan fwyaf, dechreuwyd cyn pen hir amheu fy ngolygon innau, ac aethum yn wrthddrych o dosturi i'r rhai oedd yn seilion, ac yn destyn gwawd i'r rhai eraill. Nid oedd y Bay mor arw ag y disgwyliasom, ond fe'm hysbysid na byddai yn arfer bod mor dawel unwaith mewn blwyddyn. Aethom heibio i lawer o longau, y rhai a edrychent yn bur hardd.

1

Boreu Sul, darllenwyd y gweddiau gan y Doctor. Y pryd-. nawn, yr oeddem tua glànau Portugal, y môr a'r tywydd yn bob-, peth a allesid ei ddymuno. Mordwyem o fewn milldir i'r glànau drwy weddill y dydd. Yr oedd y tir yn isel a chreigiog, ac yn ymddangos yn bur ddiffrwyth. Nos Lun, dywedid wrthym y byddem yn Gibraltar boreu dranoeth, a phan tua chwech o'r gloch, boreu ddydd Mawrth, yr angorasom, mawr oedd y cynhwrf a'r berw wrth weled ugeiniau o gychod yn brysio at yr agerdd-long-anghofiodd pawb ar unwaith eu salwch a'u profedigaethau. Y peth cyntaf i'w wneuthur oedd cael allan pa faint o amser a gaem, yna neidio i gwch ac ymaith a ni i wneud y goreu o'n hamser. Cyn tirio disgwyliwn weled lle o weddol faint a harddwch, ond ymddangosai pob peth yn dra bychan; ac er i ryw un ddyweyd wrthyf fod llawer o welliadau wedi eu gwneud yn ddiweddar, eto, ymddangosai bob peth yn bur ddirywiedig. Yr oedd y siopau yn debyg i'r rhai a welir mewn

ystrydoedd o'r drydedd radd yn Liverpool. Heblaw y gallerie a'r forts, nid oedd yno fawr o werth sylwi arno, gan mai defnyddioldeb yn hytrach na harddwch oeddid yn feddwl fwyaf am dano wrth adeiladu eu prif adeiliadau. Ar ol myned trwy y rhan isaf o'r dref, llôgasom arweinydd i fyned i'r batteries, ac ar ol dringo go enbyd cyrhaeddasom y rhes isaf o Willis' Battery, yr hwn sydd waith pur ofnadwy. Y mae y galleries yn gynnwysedig o resi hirion o passages wedi eu tori allan yn bur rhyfedd o'r graig noeth; fe ddeil rhai o honynt lawer o gannoedd o ddynion. Ar ol cryn lawer o ddringo, cyrhaeddasom y pinacl uwchaf, a elwir y "Rock Gun," o ba le y cawsom olwg ar ddarn anferth o dir, ynghyda'r trefydd Castellar, San Rogue, &c., a glànau moelion traeth Barbary. Yr oedd hyn oll ynghyda Bay ardderchog Gibraltar, wedi ei brithio â llongau, yn ffurfio golygfa ysblenydd. Gan fod ein hamser yn fyr, prysurasom i lawr, ac ar ol prynu yr ychydig bethau yr oeddem mewn angen am danynt, aethom yn ol i'r llong wedi cael mawr foddhad oddiwrth y glaniad.

y

Ar ol myned yn ol i'r llong, dechreuodd pawb deimlo y ffolineb o fod mor ffurfiol a stiff, ac aethom bawb i siarad â'n gilydd ain lle yr oeddym newydd ei adael, yr hyn a fu yn ddigon i lenwi yr amser nes y cyrhaeddasom Malta. Er nad ydyw ond bechan, y mae ynddi lawer o wrthddrychau dyddorol i bob math o feddwl. Yr oedd felly yn nodedig i mi, gan fy mod wedi hen flino ar y môr. Y prif drefydd yn Malta ydynt, Valetta a Civitta Vecchia. Y mae golwg braf i'w chael ar Valetta o'r môr, ac nid ydyw yn yn eich siomi pan ewch iddi. Y mae yr ystrydoedd yn lân, rheolaidd, ac wedi eu palmantu yn dda, er fod rhai o honynt yn bur serth. Byddai yn fwy dymunol pe goleuid hi yn well y nos. Nid oes ond lamp fechan ar gyfer pob yn ail cornel ystryd i'r dyben hwnw. Y mae y tai yn gyffredin o gerig, ac yn dri uchder llofft i fyny. Y prif wrthddrychau i edrych arnynt yn Valetta ydynt y Palasdy ac eglwys St. John. Yn y gyntaf, y mae amryw arluniau pur hen yn gynnwysedig yn benaf o illustrations ysgrythyrol, ac hefyd tapestry o wneuthuriad pur gywrain. Gwelais yno hefyd gannon pur hen ffashiwn wedi ei wneud o tarred rope, wedi ei amdoi â lining teneu o goppor. Dygwyd yr hen arf hwn oddiar y Tyrciaid, a mesura bum troedfedd o hyd, a thair modfedd o drwch. Ar ol myned drwy eglwys St. John, llogasom yr hyn a eilw y Maltiaid yn "calesse," sef

cerbyd yn cael ei dynu gan ddau geffyl, ac aethom i mewn i'r ynys. Yr oedd y caeau wedi eu amgylchynu â gwaliau o gerig gwynion, yr hyn sydd yn gwneyd i'r wlad edrych yn bur monotonous. Yr oedd yma

where the orange grove

Yields its golden treasures,
And tempts the gazing eye.

gyflawnder o bob math o ffrwythau. Ar ol gyru am tua haner awr, daethom i olwg dau o wrthddrychau o gryn ddyddordeb, sef St. Paul's Cave, a'r Catacombs. Aethom i lawr grisiau i'r ogof yr hon sydd ar ffurf cylch, ac yn ei chanol y mae delw farmor ddirywedig o St Paul, o flaen yr hon y mae goleuni yn llosgi ddydd a nos. Gadawsom yr ogof, ac ar ol gwaith pum mynyd o gerdded, dygwyd ni i'r Catacombs; ond rhag ofn eich blino, ni chwanegaf arnynt. Cyn gadael y Maltiaid, dywedaf un gair am eu gwisg :-Am eu penau gwisgant fath o gapiau, y rhai sydd debyg i gydau go fawr. Gwneir hwynt o wlan wedi ei liwio yn ddu-goch. Drwy ei fod yn crogi dros eu hysgwyddau gwasanaetha iddynt yn lle pocedau. Am eu traed gwisgant sandalau. Nid oedd yr olwg a gefais i ar y trigolion ddim yn fy nhueddu i feddwl yn ryw uchel iawn am danynt.

[ocr errors][merged small]

Y MAE pob peth ag sydd yn fanteisiol i alw ystyriaethau dyn at ei faterion pwysicaf yn werthfawr. Y mae helynt a newydd-deb pethau amserol y byd yma yn cipio y meddwl i'w canlyn, yn y fath fodd, fel y mae yn dda cael rhywbeth yn fantais i alw ei sylw at y gwirioneddau sefydlog a phwysig sydd yn perthyn iddo. Daioni mawr ydyw y newydd-deb a'r difyrwch sydd yn perthyn i'n taith trwy y byd yma; er hyny y mae yn bwysig i ni beidio ymgolli ynddynt, fel ag i beryglu ein cysur yn y dyfodol, a'n dedwyddwch mewn byd arall. Y mae y tymmor yma yn un o'r safleoedd hyny ag y mae y rhan fwyaf o honom yn tueddu i

droi yn ol, ac i ystyried yr hyn a aeth heibio, er mai ychydig yn ddiammheu sydd yn derbyn lles o hyny. I feddwl ystyriol y mae blwyddyn wedi ei threulio yn awgrymu pethau cyffrous. Ymddengys ar un olwg fel llong fawr lwythog, yn ymadael oddiwrth lenydd amser, ac yn cychwyn tua thragywyddoldeb. Y mae genym oll ryw nwydd o bwys ar ei bwrdd. Y mae ystyriaethau o gyfrifoldeb yn dyferu i'n meddwl wrth ei theimlo yn ymollwng oddiwrthym. Y mae ysbrydion rhyw weithredoedd a wnaethom yn ymrithio i'r gydwybod, bwlch yma, a thole acw, yn ein tristâu. Gydag anhawsder, yr ydym yn dal y meddwl i adolygu amgylchiadau ein byd bach ein hunain, yn y flwyddyn a aeth heibio. Bydd un yn ei chofio fel "blwyddyn y rhew mawr" iddo ef, y flwyddyn ag yr oedd blodau ei gysuron ef yn rhewi y naill ar ol y llall, fel erbyn heddyw, y mae y ddaear yn ymddangos yn "afluniaidd a gwag," tra y mae ei gymydog nesaf yn ei chyfrif y flwyddyn fwyaf dedwydd; y gwynt wedi bod o'i du, ac yntau, fel y tybia, yn ngolwg yr hafan a ddymunai. Cymhorth a gaffom oll yn ein gwahanol amgylchiadau i beidio anghofio Duw, yr hwn sydd yn anfeidrol mewn doethineb ac yn haeddu ein gwasanaeth.

Rhyfedd fel y mae dygwyddiadau blwyddyn yn chwareu â doethineb dynion. Heblaw crebwyll awduron Almanaciaid, anturiwn ddyweyd fod y mwyaf craff yn cael ei siomi yn ei brophwydoliaeth y gwleidyddwr profedig yn camgasglu—yr athronydd yn synu ac yn tewi-y maent oll, o bryd i bryd, yn gorfod cyfaddef mai nid wrth eu cynlluniau hwy y mae pethau yn dilyn eu gilydd yn hanes y byd. Y mae plentyn Duw yn gwybod mai ei Dad sydd wrth y llyw, er nas gall bob amser ganfod ei ddoethineb, eto, efe a ddywed, ddywed, "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, gorfoledded y ddaear."

Lled dywyll ac aneglur ydyw yr olygfa; yr ydym fel yn edrych yn ol i'r môr am lwybr ein ewch. Os edrychwn am y dòn a'n dychrynodd, er mwynhau ein diogelwch presennol, y mae hono fel yn chwalu, a'r llecyn hyfryd yn gerwino, fel yr ydym, ar y cyfan, yn teimlo awydd ffarwelio â hi, trwy ddiolch i'r Hwn a'n dygodd hyd yma. Yr ydym yn awyddus i ddysgwyl wrth y flwyddyn newydd; y mae hon yn ddyeithr, pwy wyr nad oes llawer o dda i ni ynddi?

Yr ydym yn addaw "troi dalen newydd,"-dilyn rhyw gynllun gwell, mabwysiadu rhyw arferiad da. Pa fodd bynag, yr ydym yn

118 CYFIEITHIAD A BYR-NODIADAU AR YR EPISTOL AT Y GALATIAID.

penderfynu treulio hon yn well na'r flwyddyn aeth heibio. Y mae yn hawdd iawn genym dalu dyledion yr hen flwyddyn âg addewidion i'w talu yn y newydd. Gresyn fod eynifer o addewidion curaidd ag a wneir genym yn nechreu y flwyddyn, yn troi allan yn ofer a diwerth; a diammheu pe byddem yn fwy gofalus i ystyried y llwybr goreu i gyflawni ein penderfyniadau, y byddem yn debycach o fod yn ennillwyr o'n hystyriaethau a'n haddewidion. Gobeithiwn y bydd i'r ychydig sylwadau hyn gynhyrfu rhywrai i ymdrechu cynnyddu yn yr hyn sydd dda. Terfynwn gyda'r adnod, "Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb."

PERERIN.

©©©©

CYFIEITHIAD A BYR-NODIADAU AR YR EPISTOL AT Y GALATIAID.

17. Ac nid aethum ymaith i Jerusalem at y rhai oeddynt o'm blaen i yn apostolion, eithr mi a aethum ymaith, i Arabia a thrachefn dychwelais i Damascus.

I Arabia. Nid oes genym hanes am y daith hon yn llyfr yr Actau. Oddiwrth Actau ix. 26, gellid casglu ei fod wedi myned ar unwaith i Jeruslem, ac y mae Baur yn dyfod a hyn ymlaen i wrth-brofi dilysrwydd llyfr yr Actau. Y faith ydyw nad oedd Luc yn gweled un anghenrheidrwydd am grybwyll y daith i Arabia, tra yr oedd o bwys i'r Apostol ei hunan ei dwyn i sylw yn ei Epistol, hwn i ateb yr amcan oedd ganddo mewn golwg, sef, i ddangos ei annibyniaeth fel Apostol ar ddynion, ac ar yr apostolion eraill. Ymddengys mai ei amcan yn myned i Arabia ydoedd, i ymbarotoi trwy fyfyrdod a gweddi, at waith ei weinidogaeth, yn hytrach nag ar unwaith i weinidogaethu, fel y barna rhai. Dylid cymeryd yr enw Arabia yma yn ei ystyr mwy ehang, i arwyddo y rhan hwnw o anialwch Arabia ag oedd yn ymylu ar Damascus.

« AnteriorContinuar »