Imágenes de páginas
PDF
EPUB
[ocr errors]

yn

Bernir gan hyny nad ydyw y gwres heulog yn treiddio yn îs i lawr na'r dyfnder hwn. Ond islaw y dyfnder pennodol hwn ceir fod tymheredd ddaear y codi yn ol 1°, neu un gradd ar y gwres fesurydd, am bob 90 o droedfeddi. Cafwyd hyn allan trwy brawfiadau mewn cloddfeydd a ffynonau dwfn. Yn ol y cyfartaledd hwn, y mae ei thymheredd yn y dyfnder o 20 neu 30 o filldiroedd yn abl i doddi yr holl sylweddau sydd ar ei gwyneb. Cadarnheir bodolaeth y gwres mewnol hwn gan weithrediadau y llosg-fynyddoedd a'r ffynonau poethion.

Pan

3. Gweithrediad anianyddol gronynau ar eu gilydd. dywallter gwlybwr ar ryw sylwedd caled, wedi ei falu yn fan, cynyrchir gwres i ryw raddau neu gilydd yn ol natur y sylweddau a ddefnyddir. Gosoder swm o'r fetel platinum wedi ei falu yn fan mewn oxygen, fe sugna yr olaf iddo ei hun i raddau rhyfeddol. Cymer i mewn iddo ei hun swm ag sydd yn 900 o weithiau cymaint a'r eiddo ei hun, a thrwy hyny cynyrcha wres angerddol, digon i beri go-losgiad dirfawr.

FFERYLLOL.

Go-losgiad, (Combustion). Canlynir gweithrediadau fferyllol sylweddau ar eu gilydd os byddant yn ddigon angerddol a chyflym, gan gynyrchiad gwres. Y mae llosgiad yn engraifft o hyn. Dibyna ar gyfuniad fferyllol sylweddau a'u gilydd. Pan gymero hyn le, yn araf, fel pan fyddo haiarn yn rhydu yn yr awyr, y mae y gwres yn anheimladwy, ond pan fyddo yn gyflym ac angerddol, y mae yn tori allan yn llosgiad teimladwy. Yn yr engreifftiau cyffredin o hono, megis mewn lampau, tanau canwyllau, &c., y mae carbon a hydrogen yr amrywiol sylweddau uchod yn ymuno ag oxygen yr awyr. Ond gall golosgiad gymeryd lle heb oxygen, megis, er engraifft, trwy gyfuniad yr elfenau phosphorus a chlorine.

SYMLRWYDD CYMERIAD.

NID ydyw symlrwydd neu unplygrwydd cymeriad un amser yn beth ag sydd yn cael ei ennill. Gellir ei gadw, a gellir ei golli, ond fel diniweidrwydd, wedi ei golli unwaith, nis gellir ei adfeddiannu byth mwy; nis gellir ychwaith ei efelychu. Nis gall yr ymgais i daflu hûg dros feiau trwy fenthyca ymddangosiad o symlrwydd fod yn llwyddianus; nid ydyw ond yn ychwanegu un bai yn ychwaneg at y rhai a feddiennir eisioes.

Os gwir ydyw, fod symlrwydd yn wastad yn gysylltiedig a'r rhagoriaeth uchaf, y mae hyny yn bod am nad ydyw rhagoriaeth yn ddim mwy nag argraff allanol o ddeddfau natur ei hun. Mewn. cysylltiad a'r celfyddydau, symlrwydd ydyw y nodwedd hanfodol yn y mawreddus a'r prydferth, ac nis gellir camu o'r mawreddus at yr arddunol ond trwy ddynesu yn fwy eto at symlrwydd perffaith. Nis gellir addurno prydferthwch ond trwy ymlyniad manwl wrth symlrwydd ymhob manylion, a phethau a ddygir i mewn yn ychwanegol. Gwirionedd wedi ei bersonoli-gwirionedd wedi ei ddadguddio, ydyw symlrwydd. Y mae yn ymwrthod gyda diystyrwch â phob addurn ag sydd yn tueddu i'w anffurfio, ac â phob plygiadau ag a allant ymyru a'r effaith y bwriada ei gynyrchu. Nid ydyw yn caniatau unrhyw fanylion oddigerth rhai sydd yn cyfeirio yn eglur at y dyben mewn golwg i'w gyrhaedd unrhyw ymadroddion oddigerth y rhai sydd yn gosod allan yn gywir y meddwl-unrhyw addurniadau oddigerth y rhai sydd yn tarddu allan yn naturiol o'r mater-unrhyw briodoliaethau ond y rhai a berthynant yn hanfodol i'r peth mewn golwg. Y mae yn gwneuthur i unoliaeth amcan, sefyll allan yn amlwg, a dengys amcan y gweithydd ymhob un, ac ymhob rhan o'i waith, yn y fath fodd fel ag y mae yn dyfod yn arddangosiad byw o un meddwl wedi ei weithio allan megys gan un tarawiad, ac yn cynyrchu un argraff lywodraethol yr hwn sydd yn treiddio i mewn i'r edrychydd heb uurhyw ymdrech na phetrusder ar ei ran ef.

У

Ond pa fodd y galluogir athrylith i roddi y manylrwydd hwn ar ei gynyrchion? Ymha le y mae yn dyfod i feddiant o'r dirgelion hyn a berthyn i'w chelfyddyd, y rhai ydynt mor gyflawn ac yn anhawdd eu cyrhaedd? Ymha le hefyd ond yn yr ansawdd meddwl hwnw ag sydd yn edrych ar bob peth yn ei symlrwydd clir a noeth. Y meddwl o alluoedd cyffredin sydd yn ymboeni ac yn llïosogi moddion, am ei fod yn teimlo ei annigonolrwydd ei

hunan. Y mae athrylith yn dawelam ei bod yn hyderus, ac yn hyderus am ei bod yn gryf. Y mae yn gweled ar unwaith y dyben a'r moddion mwyaf uniongyrchol a pherffaith i'w gyrhaedd a'i gyflawni. Y mae yn ffurfio ei drych-feddyliau gyda manylder ac yn edrych arnynt o bob cyfeiriad. Y mae wedi ei llanw â, ac yn cael ei meddiannu gan, ei thestyn a'i mater. Y mae symlrwydd yn cadw i athrylith ei holl rym trwy gadw ei holl ryddid a'i gwreiddiolder cynhenid a hunan-weithredol. Nid am fod athrylith un amser yn rhydd oddiwrth yr anghenrheidrwydd am astudiaeth ac adfyfyrdod caled a didòr-trwy hyn yn unig y gall gael ei threiddio a'i thrwytho yn llwyr gan wirionedd, yr hyn a ddylai yn wastad fod yn orchwyl ganddi, ac yn wastad fod harwain ac yn wastad fod yn cael ei amlygu yn ei gwaith gan gau allan yn llwyr bob peth personol. Fel offeiriad ysprydoledig Duw pan yn traddodi ei oraclau, dylai beidio a bod yn ddim mwy na dehonglydd.

yn seren

i'w

Y

Yn awr, yn addysgiad foesol dyn y mae symlrwydd yn rhoddi yr un cymhorth i rinwedd, ag a rydd i athrylith, mewn cysylltiad a'r celfyddydau. Os ydyw yn ychwanegu at ragoriaeth cymeriad mawr, hyny sydd am ei fod yn tueddu at gadw a pharhau morwyndod cynhenid y galon, grym cynhenid natur, a phurdeb cynhenid ein cymhelliadau naturiol i weithredu. Yn ei berthynas â chymeriad, gwirionedd teimlad ydyw a ffyddlondeb gweithrediad; yn ei berthynas a'r deall, gwirionedd meddwl ac ymadrodd ydyw. Y mae, i rinwedd, yr hyn ydyw synwyr da i reswm. mae y byd yn briodol iawn yn ymestyn at werthfawrogi symlrwydd moesau a symlrwydd iaith, y rhai a ystyrir yn gymdeithion naturiol, yr hyn sydd fawreddus a dyrchafedig, ac eto nid ydyw symlrwydd cymeriad o'r hwn nid ydynt ond yn arwyddion allanol a gweledig yn cael ei werthfawrogi fel y dylai. Nid ydyw yn cael ei ddeall ond ychydig. Pa fodd y gall yr hwn ymhob gweithred sydd yn ceisio yr amcan gwreiddiol a chyfreithlon yn unig gael ei ddeall gan y rhai sydd yn gwneuthur barn eraill yn unig safon gweithrediad Tra y mae cynifer yn actors yn ceisio clod y byd o'u hamgylch, y mae y dyn syml-feddwl yn byw megys ar ei draul ei hun, heb feddwl am eraill. Y mae yn byw heb gael sylwi arno, mae yn wir, ond y mae yn llawenychu yn hyny; canys y mae yn ei adael yn rhydd i ddilyn ei gymhellion cynhenid ei hunan. Fel yr ydym yn synu weithiau pan y mae cymeriad o'r fath yn cyrhaedd rhyw waith mawreddus ac anfarwol, a hyny

hefyd heb ymdrech i bob golwg, mor berffaith naturiol, ac mor hawdd ei gyflawni yr ymddengys iddo. Yr ydym wedi byw gydag ef o bosibl heb erioed ddal ein sylw arno, y mae yn bosibl ein bod hyd yn nod wedi ei ddiystyru ac edrych i lawr arno. Ond y mae ein canmoliaeth yn cael ei thynu oddiwrthym, ac yr ydym yn gofyn yn naturiol, o ba le y daeth y galluodd hyn y rhai sydd yn ymddangos i ni agos yn rhyfeddol-o ba le y daethant? O'r symlrwydd hwnw, yr hwn ydoedd yn ffynonell ein diystyrwch a'n hesgeulusiad, yr hwn ydoedd yn ei alluogi ef mewn tawelwch ac unigrwydd i arfer a dadblygu galluoedd ei natur. Tra yr oeddym ni yn gwasgaru ac yn gwastraffu rhoddion mwyaf dewisol Natur, yr oedd ef yn cadw y try sorau gwerthfawr heb eu cyffwrdd. Tra yr oeddym ni yn goddef ein hunain i gael ein gyru yma a thraw gan bob peth bychan, yr oedd ef yn cadw ei olwg yn sefydlog ar y nôd yr oedd wedi ei osod allan ac o'i flaen ei hunan. Yr ydym ni wedi dechreu teimlo dynesiad oed, tra y mae ef eto yn ieuanc, yr ydym ni yn gruddfan dan bwys y cadwynau a wnaethom i ni ein hunain, tra y mae ef yn parhau i gynhyrfiadau cyntefig y galluoedd uchel a mawreddus a roddwyd i ni oll gan ein Tad nefol. Yr oeddym wedi ei restru gyda'r iselradd, ond y mae yn peri i ni deimlo ei fod yn uchel mewn cymhariaeth a ni.

Pa fodd, gellir gofyn, y mae yn bosibl dadblygu a chynal heb newid na chyfnewid ynghanol gofalon ac ymdrechion y byd y teimladau rhyddfrydig hyny ag sydd wedi eu planu yn eginyn yr enaid, a'r cariad hwnw at ddaioni ag sydd yn eu huno a'u gilydd mewn un gadwen gyffredin. Y mae blinderau yn gwarchae arnom, dygwyddiadau yn ein twyllo, ac y mae llygaid dynion arnom. Yr ydym yn cael ein dyrysu gan fil o bethau sydd yn dirdynu ein meddyliau, gan bethau sydd yn ein digaloni, a chan ofynion y farn gyffredin arnom? Yr ydym yn ateb, trwy symlrwydd, yr hwn ydyw yr angel sydd wedi ei ordeinio i'n cadw rhag y peryglon hyn, ag sydd yn gwylio wrth ddry sau palas ein henaid.

Y mae cariad at ddaioni yn disgleirio yn y meddwl sydd wedi ei nodweddu gan symlrwydd, fel pelydr o oleuni mewn grisial, yn ei dreiddio heb rwystr, ac yn disgleirio yn ei holl burdeb fel pe byddai wrth ei fodd ac yn llawenychu yn ei drigfa. Mor naturiol ydyw rhinwedd i'n meddwl; mor eglur y mae ein galluoedd pan ar waith, wedi eu bwriadu iddo, fel ag y mae ei ddylanwad

a'i allu arnom yn wastad i'r graddau ag y mae wedi ei dderbyn genym mewn gonestrwydd syml. Nid oes dim mor uniongyrchol ac unplyg â'r cymhelliadau naturiol i wneuthur daioni, dim yn gliriach na'r syniadau cyd-fynedol ag ef—dim yn fwy priodol a chyfiawn na'r addysgiadau sydd yn canlyn. Y mae yn wir yn tyfu trwy yr hyn y mae yn ymborthi arno. Y mae ei deimladau ei hunan yn holl-ddigonol, ac yn ennill ufudd-dod rhydd a pharod. Yn yr arferiad a'r gweithrediad o rinwedd y mac y cyfan yn cael ei grynhoi a'i gyd-drefnu. Mewn anfoes y mae y cyfan yn wasgaredig ac anghyson.

[ocr errors][merged small][merged small]

(Cyf.)

ERTHYGL III.—CYFNEWIDIADAU AR WYNEB Y DDAEAR. (Parhad)

DYFROL.

ACHOS arall o'r cyfnewidiadau ar wyneb y ddaear ydyw dwfr. "Yn mhob man," medd Syr John Herschel, yr ydym yn canfod y môr yn rhyfela yn erbyn y tir, ac yn mhob man yn ei orchfygu; yn ei wisgo a'i fwyta ymaith, a'i falurio yn ddarnau, yn chwilfriwio y darnau hyny yn bwdr, yn cludo y pwdr hwnw ymaith a'i wasgar ar ei waelodion ei hun. Mae pob dwfr rhedegog yn gadael argraph arhosol ar ei ol. Mae gallu y dwfr yn cael ei ranu i ddau fath. 1. Gallofyddol (mechanical) sef gwisgo'r ddaear o'i amgylch, a pheri i gerrig syrthio, a chludo y rhai hyny trachefn, a thrwy barhâd o'r cyfryw weithrediadau yn ffurfio sianel, &c. 2. Fferyllol, megys y dylanwad sydd gan ddwfr ar haiarn, trwy ei rydu, yr hwn ddylanwad sydd ganddo hefyd ar gerrig; fel y gwelir yn fynych y galchfaen yn llawn man dyllau; yr hyn a effeithir nid gan allu gallofyddol dwfr, ond yn hytrach gan yr elfenau hyny ag sydd yn ei gyfansoddi.

Mae gallu y môr a'i dònau i'w weled yn eglur yn mhob man, ond neillduo mewn rhai manau. yn Canfyddir weithiau greigiau mawrion wedi eu bwyta yn dyllau; mewn lleoedd eraill canfyddir ogofau a thyllau yn ymestyn trwy greigiau, megys Ogof Fingal

« AnteriorContinuar »